
Cafodd Cylch Meithrin Rhuthun ei sefydlu 60 mlynedd yn ôl. Hwn oedd un o’r cylchoedd meithrin Cymraeg cyntaf yng Nghymru.
Caiff ei arolygu yn rheolaidd gan ESTYN, Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru a Mudiad Ysgolion Meithrin.
Rydym yn ymfalchïo yn y berthynas gref rydym ni wedi’i meithrin gyda rhieni a gwarcheidwaid dros y blynyddoedd, ac mae gennym ni draddodiad cryf o ddarparu addysg cyn ysgol o safon uchel. Rydym yn croesawu’r rhieni/gwarcheidwaid i ymwneud â phob agwedd o fywyd Cylch Meithrin Rhuthun, ac, yn wir, rhieni sy’n bennaf gyfrifol am godi arian.
Fel rhieni ein hunain, rydym yn ymwybodol pa mor bwysig yw hi i chi deimlo eich bod yn dewis yr addysg gorau i’ch plentyn, ac felly bydd eich plentyn yn derbyn y gofal a’r addysg gorau yn Cylch Meithrin Rhuthun. Cymraeg yw iaith y Cylch Meithrin ond rydym yn rhoi croeso cynnes i bob plentyn, dim ots beth yw’r iaith sy’n cael ei siarad yn y cartref.
Nod ein cylch yw hyrwyddo addysg a datblygiad plant o ddwy flwydd oed hyd at oed ysgol. Mae cyfle i blant gymdeithasu a dysgu trwy chwarae dan arweiniad ein staff proffesiynol, cyfeillgar a brwdfrydig.
Os hoffech drafod unrhyw agwedd o waith y cylch mae croeso i chi gysylltu â ni.
Gweithgareddau:
Byddant yn cynnwys gweithgareddau sydd wedi eu gwreiddio yng ngofynion pedwar maes Canllawiau Senedd Cymru ar gyfer plant cyn ysgol:
Rhifedd
Llythrennedd
Corfforol
Cymdeithasol
Dyma esiampl o’r math o weithgareddau fydd yn cael eu cynnal yn y Cylch:
Chwarae a chymdeithasu â phlant eraill
Dysgu drwy chwarae tu fewn a thu allan
Chwarae â thywod, dŵr, toes, tŷ bach twt, jig-sos, teganau, gemau bwrdd, beiciau
Darllen stori, canu a dawnsio
Rhoddir pob cymorth i bob plentyn gyrraedd ei botensial / photensial






Oriau / Ffioedd (o fis Medi 2025):
Bydd Cylch ar agor bob dydd (yn ystod tymor ysgol yn unig).
Dydd Llun-Dydd Iau: 8am-3pm
Dydd Gwener: 8am-1pm
Clwb Brecwast: 8-9am (£3.50)
Sesiwn Byr: 9am-1pm (£28.50)
Sesiwn Llawn: 9am-3pm (£40)
Bydd angen darparu bocs bwyd.
Mae'r ffioedd hyn yn unol â chyfraddau Llywodraeth Cymru ac yn cael eu gwerthuso yn flynyddol.
Mae rhieni a gwarcheidwaid yn gallu gwneud cais am ofal plant wedi'i ariannu ac addysg gynnar am hyd at 30 awr yr wythnos (o’r tymor ar ol i’ch plentyn droi’n 3 oed).
Mae 30 awr yn cynnwys:
o leiaf 10 awr o addysg gynnar yr wythnos - cofrestrwch yma
hyd at 20 awr yr wythnos o ofal plant - cofrestrwch yma
Gallwch hefyd dalu drwy eich cyfrif Gofal Plant sy'n Rhydd o Dreth
Cylch Ti a Fi Rhuthun
Mae’r Cylch Ti a Fi yn rhoi cyfle ichi a’ch plentyn gwrdd yn rheolaidd gyda rhieni/gwarchodwyr a phlant eraill er mwyn i’r plant gael cyfle i fwynhau chwarae gyda’i gilydd gan roi cyfle ichi gymdeithasu dros baned neu ddisgled o de! Mae’n gyfle gwych i rieni/gwarchodwyr gwrdd i rannu profiadau a chymdeithasu mewn awyrgylch Gymreig.
0-4 oed - dim angen bwcio
Ystafell Clwb Ffrindiau Bach, Ysgol Pen Barras
9:15-10:30am
£2 (50c pob plentyn ychwanegol)
Lleoliad
Canolfan Busnes Clwydfro
Stad Diwydiannol Lon Parcwr
Rhuthun
Sir Ddinbych
LL15 1NJ
Gan ddilyn rheoliadau AGC, mae gofyn i gymhareb staff i blant gael ei ddilyn sef 1:8 dros dair oed, 1:4 i blant dwy oed. Mae’r Cylch yn derbyn plant newydd o’r diwrnod y byddant yn troi’n 2 oed, os oes lle.
-
Anti Kate
Arweinydd
Rwyf yn byw yn Bryn Saith Marchog gyda fy ngŵr Emrys. Mae gen i 3 o blant sydd bellach wedi tyfu fyny – Tryfan, Gwennol a Gwyddon.
Dechreuais weithio i Cylch Meithrin Rhuthun yn 2008 ac ers 2010 yn arwain y tȋm o staff brwdfrydig a hwyliog.
Mae gweithio er mwyn sicrhau y gofal gorau i bob plentyn yn flaenllaw gen i, rwyf wrth fy modd yn gweld y plant yn datblygu eu cymeriadau, eu hyder a’u parodrwydd i gymryd y cam nesaf. Does dim byd gwell na clywed y plant yn chwarae’n hapus, canu, sgwrsio a chwerthin.
Rwyf wedi ennill cymhwyster Diploma Lefel 5 mewn Arweinyddiaeth ar gyfer Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant (Arfer Uwch), Adeiladwyr Iaith Elklan Lefel 3, a rwy’n gweithio tuag at ddod yn Arweinydd Ysgol Goedwig Lefel 3.
Mae gen i lawer o ddiddordebau gan gynnwys garddio, gwnïo, Penny y spaniel, canu gyda Côr Rhuthun ac wrth gwrs fel unawdydd led led Cymru.
-
Anti Myra
Cynorthwyydd
Dwi’n byw yn Rhuthun ers dros 30 o flynyddoedd gyda fy ngwr Steve. Mae gen i 3 o blant a 9 o wyrion a wyresau.
Dwi’n gweithio yn Cylch Meithrin Rhuthun ers tair mlynedd, ac yn mwynhau bod efo’r plant bob diwrnod. Dwi wedi gweithio mewn ysgolion a lleoliadau gofal ers blynyddoedd ac yn meddu ar Gymhwyster Lefel 3 mewn Gofal a Datblygiad Plant.
Y tu allan i’r Cylch dwi’n mwynhau caligraffi, celf grisial, cerdded, edrych ar ol fy wyrion a wyresau a…neidio allan o awyrennau!
-
Anti Sian
Is-Arweinydd
Helô, Sian ydw i. Rwy’n fam i ddau o fechgyn ac rwy'n eu caru ac yn mwynhau treulio pob eiliad gyda nhw.
Pan oeddwn i'n iau roeddwn i'n byw dramor ac yn hoff iawn o chwaraeon eithafol, fel wakeboarding, hwylfyrddio ac eirafyrddio. Nawr rwy'n fwy na hapus yn cael crwydro ychydig gyda natur neu'n mwynhau unrhyw fath o brosiectau crefft.
Rwy'n nyrs feithrin gymwysedig ers 25 mlynedd. Yn ystod fy ngyrfa rwyf wedi bod yn bennaf mewn gofal plant, ond rwyf hefyd wedi gweithio ym maes lletygarwch fel Rheolwr Gwasanaeth Gwesteion mewn gwesty 5 seren a Rheolwr Llety yn Awstria. Rwy'n falch iawn o fod yn rhan o Gylch Meithrin Rhuthun.
Cysylltwch â ni.
ebost: cylchrhuthun2020@gmail.com
Newyddion
-
Sioe Diwedd Tymor
Cyn i’r Cylch gau ar gfyer y gwyliau haf cafodd rhieni a ffrindiau’r cylch wledd o berfformiad gan y plant.
Pob lwc i’r plant sy’n cychwyn yn yr ysgol ym mis Medi a mwynhewch yr haf!
-
Llongyfarchiadau Anti Kate ac Anti Sian
Mae Anti Kate ac Anti Sian wedi cyrraedd rhestr fer Seremoni Gwobrau Mudiad Meithrin 2023. Bydd y seremoni yn cael ei gynnal ym mis Hydref. Pob lwc!
-
Swayne Johnson yn noddi digwyddiad codi arian
Mae’r Cylch yn brysur yn trefnu digwyddiadau codi arian, gan gychwyn gyda noson o gomedi gyda Hywel Pitts ar Fedi 22.
Diolch yn fawr i gwmni Swayne Johnson am noddi’r digwyddiad.
-
Lleoliad newydd
Mae’r Cylch yn falch o gael symud yn ôl i Rhuthun i Ganolfan Busnes Clwydfro.
-
Taith gerdded
Cafodd plant y Cylch lot o hwyl yn cerdded 1 milltir yn eu pyjamas yn Loggerheads er mwyn codi arian i’r Cylch. Diolch arbennig i Aykroyd & Sons am y nawdd caredig.
-
Naid Elusennol Anti Kate ac Anti Myra
Er mwyn codi arian ar gyfer y Cylch cytunodd Anti Kate ac Anti Myra neidio allan o awyren 15,000 o droedfeddi o’r ddaear yn ystod Pasg 2022. Cafodd dros £2,500 ei godi ar gyfer datblygu a diogelu’r Cylch.